The Financing an Environment for Wales Leaders’ Summit in Newtown took place on 7th October 2025; setting a collective approach to financial innovation for land, water and nature.
Cynhaliwyd Uwchgynhadledd Arweinwyr Ariannu Amgylchedd i Gymru yn y Drenewydd ar 7 Hydref 2025; gan osod dull ar y cyd ar gyfer arloesi ariannol ar gyfer tir, dŵr a natur.

Financing an Environment for Wales
The purpose of Financing an Environment for Wales was to set a collective approach to financing the environment that the country needed. It shared insight on actions that were already being taken, such as the cultivation of nature markets. Together, we set out the ‘big picture’ of how money from all sources could achieve more for Wales.
Join our Welsh Forum to be updated on news, events and resources for the Sustainable Management of Land and Water in Wales
Ariannu Amgylchedd i Gymru
Pwrpas Ariannu Amgylchedd i Gymru oedd sefydlu dull ar y cyd o ariannu’r amgylchedd oedd ei angen ar y wlad a rhannu gwybodaeth am y camau yr oeddent eisoes yn cael eu cymryd, megis datblygu marchnadoedd natur. Gyda’n gilydd, gwelsom y ‘darlun cyfan’ o sut y gallai arian o bob ffynhonnell gyflawni mwy i Gymru.
Ymunwch â’n Fforwm Cymraeg i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion, digwyddiadau ac adnoddau ar gyfer Rheoli Cynaliadwy Tir ac Dŵr yng Nghymru.
Why did this event take place?
In Wales and beyond, there was growing interest in the innovative use of money to secure the natural environment upon which everyone depended. This involved finding ways for private, public and philanthropic funding to work together. It included payments for outcomes, such as the removal of carbon dioxide from the atmosphere into soil, saltmarsh, seaweed and plants. It also encompassed investment in climate resilience, and actions that could support thriving rural economies as well as marine and coastal areas.
Pam y cynhaliwyd y digwyddiad hwn?
Yng Nghymru a thu hwnt, roedd diddordeb cynyddol mewn defnyddio arian mewn ffordd arloesol i ddiogelu’r amgylchedd naturiol yr oedd pob un ohonom yn dibynnu arno. Roedd hyn yn cynnwys dod o hyd i ffyrdd y gallai arian preifat, cyhoeddus a rhoddion weithio gyda’i gilydd. Roedd hefyd yn cynnwys taliadau am ganlyniadau, megis tynnu carbon deuocsid o’r atmosffer i bridd, morfa heli, gwymon a phlanhigion. Roedd hyn yn cynnwys, yn ogystal, fuddsoddi mewn gwytnwch yn erbyn newid hinsawdd, a chamau gweithredu a allai sicrhau economïau gwledig ffyniannus yn ogystal ag ardaloedd morol ac arfordirol.
Opportunity for everyone?
There is a role for everyone in this innovation – from local communities to the largest businesses, charities and public bodies. Wales now has opportunity to make this arena work for its people, its priorities, its environment and its well-being economy.
Cyfle i bawb?
Mae rôl i bawb yn y maes arloesol hwn – o gymunedau lleol i’r busnesau mwyaf, elusennau a chyrff cyhoeddus. Mae gan Gymru gyfle nawr i wneud i’r maes hwn fod o fudd i’w phobl, ei blaenoriaethau, ei hamgylchedd a’i heconomi llesiant.
Themes
- How funding and finance from different sources can work together more effectively.
- Integrating action across urban, rural, coastal and marine areas.
- What is the distinctive approach of Wales in funding and finance for environmental and social outcomes.
- Scotland’s experience with building a community of people working towards financial innovation at the intersection of land, water, nature and people.
Themâu
- Sut y gall cyllid o wahanol ffynonellau weithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol.
- Integreiddio camau gweithredu ar draws ardaloedd trefol, gwledig, arfordirol a morol.
- Beth yw dull unigryw Cymru o ran cyllid ar gyfer canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol.
- Profiad yr Alban o greu cymuned o bobl sy’n gweithio tuag at arloesi ariannol lle mae cysylltiad rhwng tir, dŵr, natur a phobl.
Expected outcomes from the Summit
A group of leaders in 100 key organisations in Wales willing and able to work together to attract funding and finance that will deliver a better environment for all of Wales. This is a place for participants to generate ideas for action, and to find partners with whom they can work. We expect new projects, enterprises to arise through the event, building on work already started.
Canlyniadau disgwyliedig o’r Uwchgynhadledd
Grŵp o arweinwyr mewn 100 o sefydliadau allweddol yng Nghymru sy’n fodlon ac yn gallu gweithio gyda’i gilydd i ddenu cyllid a fydd yn sicrhau amgylchedd gwell i Gymru gyfan. Mae hwn yn lle i gyfranogwyr gynnig syniadau ar gyfer gweithredu, ac i ddod o hyd i bartneriaid y gallant weithio gyda nhw. Rydym yn disgwyl i brosiectau a mentrau newydd ddeillio o’r digwyddiad, gan adeiladu ar waith sydd eisoes wedi’i ddechrau.
Who organised the event?
Ecosystems Knowledge Network organised this event, with funding support from Natural Resources Wales, the Future Generations Commissioner for Wales, and the Integrating Finance for Biodiversity Programme.
Contact us for more information
Pwy drefnodd y digwyddiad?
Ecosystems Knowledge Network sy’n trefnu’r digwyddiad hwn, gyda chymorth ariannol gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a’r Rhaglen Integreiddio Cyllid a Bioamrywiaeth
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth